Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 19:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Gwna alarnad am dywysogion Israel,

2. a dywed:‘Y fath lewes oedd dy famymhlith y llewod!Gorweddodd ymysg y llewod ifainca magu ei chenawon.

3. Meithrinodd un o'i chenawon,a thyfodd yn llew ifanc;dysgodd larpio ysglyfaetha bwyta pobl.

4. Clywodd y cenhedloedd amdano,ac fe'i daliwyd yn eu pwll;aethant ag ef â bachaui wlad yr Aifft.

5. Pan welodd hi ei siomia dinistrio ei gobaith,cymerodd un arall o'i chenawona gwneud llew ifanc ohono.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 19