1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2. “Fab dyn, gosod bos a llefara ddameg wrth dŷ Israel,
3. a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Daeth i Lebanon eryr mawr, a chanddo adenydd cryfion, a'i esgyll yn hirion ac yn llawn plu amryliw. Cymerodd frigyn uchaf y gedrwydden,
4. a thorrodd flaen uchaf y brigyn a'i gymryd i wlad o fasnachwyr a'i blannu yn ninas marsiandïwyr.
5. Cymerodd hefyd beth o had y tir a'i roi mewn daear ffrwythlon; plannodd ef fel helygen wrth ddigon o ddŵr.
6. Blagurodd a daeth yn winwydden, â'i thyfiant yn lledu'n isel, ei changhennau'n troi ato ef, ond ei gwreiddiau'n parhau odani. Felly daeth yn winwydden, gan dyfu canghennau a bwrw allan frigau.
7. Ond yr oedd eryr mawr arall, a chanddo adenydd cryfion a digon o blu, a throdd y winwydden hon ei gwreiddiau i'w gyfeiriad ef, ac o'r rhandir lle plannwyd hi anfonodd allan ganghennau ato ef i geisio dŵr.
8. Fe'i trawsblannwyd mewn daear dda wrth ddigon o ddŵr er mwyn iddi dyfu canghennau, cynhyrchu ffrwyth a dod yn winwydden odidog.’
9. Dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: A ffynna hi? Oni chodir ei gwreiddiau hi, a thynnu ei ffrwyth? Oni wywa ei thyfiant newydd hi yn llwyr, nes y gellir tynnu ymaith ei gwreiddiau heb fraich gref na llawer o bobl?
10. Os trawsblennir hi, a ffynna? Oni wywa'n llwyr, fel petai wedi ei tharo gan wynt y dwyrain—gwywo ar y rhandir lle bu'n tyfu?’ ”
11. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
12. “Dywed wrth y tylwyth gwrthryfelgar hwn, ‘Oni wyddoch beth a olyga hyn?’ Dywed, ‘Daeth brenin Babilon i Jerwsalem a chymryd ei brenin a'i thywysogion, a mynd â hwy gydag ef i Fabilon.