18. cymeraist dy ddillad o frodwaith i'w gorchuddio, ac offrymu fy olew a'm harogldarth o'u blaenau.
19. A'r bwyd a roddais iti—oherwydd bwydais di â pheilliaid, olew a mêl—fe'i rhoddaist o'u blaenau yn arogldarth hyfryd; fel hyn y bu, medd yr Arglwydd DDUW.
20. Cymeraist dy feibion a'th ferched, a oedd yn blant i mi, a'u hoffrymu yn fwyd iddynt; a oedd hyn yn llai o beth na'th buteindra?
21. Lleddaist fy mhlant a'u haberthu i'r eilunod.
22. Ac yn dy holl ffieidd-dra a'th buteindra, ni chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, pan oeddit yn llwm a noeth ac yn ymdrybaeddu yn dy waed.
23. “ ‘Wedi dy holl ddrygioni (Gwae! Gwae di! medd yr Arglwydd DDUW),
24. adeiledaist i ti dy hun lwyfan, a gwnaethost iti uchelfa ym mhob sgwâr.
25. Ar ben pob stryd codaist dy uchelfa, a halogi dy brydferthwch gan ledu dy goesau i bob un a âi heibio, a phuteinio'n ddiddiwedd.
26. Puteiniaist gyda'r Eifftiaid, dy gymdogion trachwantus, ac ennyn fy nig â'th buteindra diddiwedd.
27. Estynnais innau fy llaw yn dy erbyn, a lleihau dy diriogaeth; rhoddais di i ddymuniad dy elynion, merched y Philistiaid, a gywilyddiwyd gan dy ffordd anllad.