4. Dos â'th baciau allan, fel paciau caethglud, liw dydd yn eu gŵydd, a dos dithau allan yn eu gŵydd gyda'r nos, yn union fel y rhai sy'n mynd i gaethglud.
5. Yn eu gŵydd cloddia drwy'r mur, a dos allan drwyddo.
6. Yn eu gŵydd cod dy baciau ar dy ysgwydd a mynd â hwy allan yn y gwyll; gorchuddia dy wyneb rhag iti weld y tir, oherwydd gosodais di'n arwydd i dŷ Israel.”
7. Gwneuthum fel y gorchmynnwyd imi. Liw dydd euthum â'm paciau allan, fel paciau caethglud, a liw nos cloddiais trwy'r mur â'm dwylo, a mynd â hwy allan yn y gwyll a'u cario ar fy ysgwydd yn eu gŵydd.
8. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf yn y bore a dweud,
9. “Fab dyn, oni ofynnodd Israel, y tylwyth gwrthryfelgar, iti, ‘Beth wyt ti'n ei wneud?’
10. Dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Y mae a wnelo'r baich hwn â'r tywysog yn Jerwsalem, ac y mae holl dylwyth Israel yn ei chanol.’
11. Dywed, ‘Yr wyf fi'n arwydd i chwi; fel y gwneuthum i, felly y gwneir iddynt hwy; ânt i gaethiwed i'r gaethglud.’
12. Bydd y tywysog sydd yn eu plith yn codi ei baciau ar ei ysgwydd yn y gwyll ac yn mynd allan; cloddir trwy'r mur, iddo fynd allan trwyddo, a bydd yn gorchuddio'i wyneb rhag iddo weld y tir â'i lygaid.
13. Taenaf fy rhwyd drosto, ac fe'i delir yn fy magl; af ag ef i Fabilon, gwlad y Caldeaid, ond ni fydd yn ei gweld, ac yno y bydd farw.
14. A byddaf yn gwasgaru i'r pedwar gwynt yr holl rai sydd o'i amgylch, ei gynorthwywyr a'i luoedd, ac yn eu hymlid â chleddyf noeth.
15. Byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD pan fyddaf yn eu gwasgaru ymysg y cenhedloedd ac yn eu chwalu trwy'r gwledydd.