Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 11:6-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Yr ydych wedi lladd llawer yn y ddinas hon, ac wedi llenwi ei strydoedd â meirwon.

7. Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Y cyrff a roesoch yn ei chanol yw'r cig, a'r ddinas yw'r crochan, ond fe'ch gyrraf allan ohoni.

8. Yr ydych yn ofni cleddyf, ond cleddyf a ddygaf arnoch, medd yr Arglwydd DDUW.

9. Fe'ch gyrraf allan ohoni a'ch rhoi yn nwylo estroniaid, a gwnaf farn â chwi.

10. Fe syrthiwch drwy'r cleddyf, ac fe'ch barnaf ar derfynau Israel; yna cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

11. Nid y ddinas hon fydd y crochan i chwi, ac nid chwi fydd y cig o'i fewn; ond ar derfynau Israel y barnaf chwi.

12. Cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD; ni fuoch yn dilyn fy neddfau nac yn ufuddhau i'm barnau, ond yn gwneud yn ôl barnau'r cenhedloedd sydd o'ch amgylch.’ ”

13. Ac fel yr oeddwn yn proffwydo, bu farw Pelateia fab Benaia. Syrthiais ar fy wyneb a gweiddi â llais uchel a dweud, “Och! Fy Arglwydd DDUW, a wyt am wneud diwedd llwyr ar weddill Israel?”

14. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

15. “Fab dyn, am dy dylwyth—tylwyth o'r un gwaed â thi, a holl dŷ Israel—y mae trigolion Jerwsalem yn dweud, ‘Y maent hwy yn bell oddi wrth yr ARGLWYDD; i ni y rhoddwyd y tir yn etifeddiaeth.’

16. Felly dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Er imi eu hanfon ymhell i blith y cenhedloedd, a'u gwasgaru trwy'r gwledydd, eto am ychydig bûm yn gysegr iddynt yn y gwledydd lle maent.’

17. Felly dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Fe'ch casglaf o blith y bobloedd, a'ch dwyn ynghyd o'r gwledydd lle gwasgarwyd chwi, a rhoddaf ichwi dir Israel.’

18. Pan ddônt yno, fe fwriant allan ohoni ei holl bethau atgas a ffiaidd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 11