Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 11:11-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Nid y ddinas hon fydd y crochan i chwi, ac nid chwi fydd y cig o'i fewn; ond ar derfynau Israel y barnaf chwi.

12. Cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD; ni fuoch yn dilyn fy neddfau nac yn ufuddhau i'm barnau, ond yn gwneud yn ôl barnau'r cenhedloedd sydd o'ch amgylch.’ ”

13. Ac fel yr oeddwn yn proffwydo, bu farw Pelateia fab Benaia. Syrthiais ar fy wyneb a gweiddi â llais uchel a dweud, “Och! Fy Arglwydd DDUW, a wyt am wneud diwedd llwyr ar weddill Israel?”

14. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

15. “Fab dyn, am dy dylwyth—tylwyth o'r un gwaed â thi, a holl dŷ Israel—y mae trigolion Jerwsalem yn dweud, ‘Y maent hwy yn bell oddi wrth yr ARGLWYDD; i ni y rhoddwyd y tir yn etifeddiaeth.’

16. Felly dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Er imi eu hanfon ymhell i blith y cenhedloedd, a'u gwasgaru trwy'r gwledydd, eto am ychydig bûm yn gysegr iddynt yn y gwledydd lle maent.’

17. Felly dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Fe'ch casglaf o blith y bobloedd, a'ch dwyn ynghyd o'r gwledydd lle gwasgarwyd chwi, a rhoddaf ichwi dir Israel.’

18. Pan ddônt yno, fe fwriant allan ohoni ei holl bethau atgas a ffiaidd.

19. Rhoddaf iddynt galon unplyg, ac ysbryd newydd ynddynt; tynnaf ohonynt y galon garreg, a rhoi iddynt galon gig.

20. Yna byddant yn dilyn fy neddfau ac yn gofalu cadw fy marnau; byddant yn bobl i mi, a byddaf finnau yn Dduw iddynt hwy.

21. Ond am y rhai sydd â'u calon yn dilyn pethau atgas a ffiaidd, rhoddaf dâl iddynt am hynny, medd yr Arglwydd DDUW.”

22. Yna cododd y cerwbiaid eu hadenydd, gyda'r olwynion wrth eu hochrau; ac yr oedd gogoniant Duw Israel uwch eu pennau.

23. Cododd gogoniant yr ARGLWYDD o fod dros ganol y ddinas, ac arhosodd dros y mynydd sydd i'r dwyrain ohoni.

24. Cododd yr ysbryd fi a mynd â mi at y gaethglud ym Mabilon mewn gweledigaeth trwy ysbryd Duw. Yna aeth y weledigaeth a gefais oddi wrthyf,

25. a dywedais wrth y caethgludion y cyfan a ddangosodd yr ARGLWYDD imi.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 11