Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 11:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna cododd yr ysbryd fi a mynd â mi at borth y dwyrain i dŷ'r ARGLWYDD, sef yr un sy'n wynebu tua'r dwyrain. Ac yno wrth ddrws y porth yr oedd pump ar hugain o ddynion, a gwelais yn eu mysg Jaasaneia fab Assur a Pelateia fab Benaia, arweinwyr y bobl.

2. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Fab dyn, dyma'r dynion sy'n cynllwyn drygioni ac yn rhoi cyngor drwg yn y ddinas hon,

3. ac yn dweud, ‘Nid yw'n amser eto i adeiladu tai; y ddinas yw'r crochan, a ninnau yw'r cig.’

4. Felly, proffwyda yn eu herbyn; proffwyda, fab dyn.”

5. Daeth ysbryd yr ARGLWYDD arnaf a dweud wrthyf, “Dywed, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fel y llefarwch, dŷ Israel; fe wn i beth sy'n dod i'ch meddyliau.

6. Yr ydych wedi lladd llawer yn y ddinas hon, ac wedi llenwi ei strydoedd â meirwon.

7. Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Y cyrff a roesoch yn ei chanol yw'r cig, a'r ddinas yw'r crochan, ond fe'ch gyrraf allan ohoni.

8. Yr ydych yn ofni cleddyf, ond cleddyf a ddygaf arnoch, medd yr Arglwydd DDUW.

9. Fe'ch gyrraf allan ohoni a'ch rhoi yn nwylo estroniaid, a gwnaf farn â chwi.

10. Fe syrthiwch drwy'r cleddyf, ac fe'ch barnaf ar derfynau Israel; yna cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

11. Nid y ddinas hon fydd y crochan i chwi, ac nid chwi fydd y cig o'i fewn; ond ar derfynau Israel y barnaf chwi.

12. Cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD; ni fuoch yn dilyn fy neddfau nac yn ufuddhau i'm barnau, ond yn gwneud yn ôl barnau'r cenhedloedd sydd o'ch amgylch.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 11