Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 10:9-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Wrth imi edrych, gwelais hefyd bedair olwyn yn ymyl y cerwbiaid, un olwyn yn ymyl pob cerwb; yr oedd ymddangosiad yr olwynion yn debyg i eurfaen disglair.

10. O ran ymddangosiad yr oedd y pedair yn debyg i'w gilydd, fel pe bai olwyn oddi mewn i olwyn.

11. Pan symudent, fe aent i un o'r pedwar cyfeiriad, ond nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth fynd. Fe âi'r cerwbiaid i ble bynnag yr oedd y pen yn wynebu, ond nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth fynd.

12. Yr oedd eu holl gorff—eu cefnau, eu dwylo a'u hadenydd—a'r olwynion hefyd, y pedair ohonynt, yn llawn o lygaid.

13. Ac am yr olwynion, fe'u galwyd yn fy nghlyw yn chwyrnellwyr.

14. Yr oedd gan bob un o'r cerwbiaid bedwar wyneb: y cyntaf yn wyneb cerwb; yr ail yn wyneb dyn; y trydydd yn wyneb llew; y pedwerydd yn wyneb eryr.

15. Yna fe gododd y cerwbiaid i fyny; dyma'r creaduriaid a welais wrth afon Chebar.

16. Pan symudai'r cerwbiaid, fe symudai'r olwynion wrth eu hochr; pan estynnai'r cerwbiaid eu hadenydd i godi oddi ar y ddaear, nid oedd yr olwynion yn ymadael â hwy.

17. Pan safent, fe safent hwythau, a phan godent, fe godent hwythau, oherwydd yr oedd ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion.

18. Yna symudodd gogoniant yr ARGLWYDD o fod uwchben rhiniog y deml, ac arhosodd uwchben y cerwbiaid.

19. Estynnodd y cerwbiaid eu hadenydd a chodi oddi ar y ddaear yn fy ngŵydd, ac fel yr oeddent yn mynd yr oedd yr olwynion yn mynd gyda hwy. Ond bu iddynt aros wrth ddrws porth y dwyrain i dŷ'r ARGLWYDD, ac yr oedd gogoniant Duw Israel yno uwch eu pennau.

20. Dyma'r creaduriaid a welais dan Dduw Israel wrth afon Chebar, a sylweddolais mai cerwbiaid oeddent.

21. Yr oedd gan bob un bedwar wyneb, a chan bob un bedair adain, gyda rhywbeth tebyg i law ddynol dan eu hadenydd.

22. Yr oedd eu hwynebau yn debyg o ran ymddangosiad i'r wynebau a welais wrth afon Chebar; yr oedd pob un ohonynt yn symud yn syth yn ei flaen.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 10