29. pan oedd yn gosod terfyn i'r môr,rhag i'r dyfroedd anufuddhau i'w air,a phan oedd yn cynllunio sylfeini'r ddaear.
30. Yr oeddwn i wrth ei ochr yn gyson,yn hyfrydwch iddo beunydd,yn ddifyrrwch o'i flaen yn wastad,
31. yn ymddifyrru yn y byd a greodd,ac yn ymhyfrydu mewn pobl.
32. “Yn awr, blant, gwrandewch arnaf;gwyn eu byd y rhai sy'n cadw fy ffyrdd.
33. Gwrandewch ar gyfarwyddyd, a byddwch ddoeth;peidiwch â'i anwybyddu.
34. Gwyn ei fyd y sawl sy'n gwrando arnaf,sy'n disgwyl yn wastad wrth fy nrws,ac yn gwylio wrth fynedfa fy nhÅ·.
35. Yn wir, y mae'r un sy'n fy nghael i yn cael bywyd,ac yn ennill ffafr yr ARGLWYDD;
36. ond y mae'r un sy'n methu fy nghael yn ei ddinistrio'i hun,a phawb sy'n fy nghasáu yn caru marwolaeth.”