Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 8:13-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Ofn yr ARGLWYDD yw casáu drygioni;yr wyf yn ffieiddio balchder ac uchelgais,ffordd drygioni a geiriau traws.

14. Fy eiddo i yw cyngor a chraffter,a chennyf fi y mae deall a gallu.

15. Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd,ac y llunia llywodraethwyr ddeddfau cyfiawn.

16. Trwof fi y caiff tywysogion awdurdod,ac y barna penaethiaid yn gyfiawn.

17. Yr wyf yn caru pob un sy'n fy ngharu i,ac y mae'r rhai sy'n fy ngheisio'n ddyfal yn fy nghael.

18. Gennyf fi y mae cyfoeth ac anrhydedd,digonedd o olud a chyfiawnder.

19. Y mae fy ffrwythau'n well nag aur, aur coeth,a'm cynnyrch yn well nag arian pur.

20. Rhodiaf ar hyd ffordd cyfiawnder,ar ganol llwybrau barn,

21. a rhoddaf gyfoeth i'r rhai a'm câr,a llenwi eu trysordai.

22. “Lluniodd yr ARGLWYDD fi ar ddechrau ei waith,yn gyntaf o'i weithredoedd gynt.

23. Fe'm sefydlwyd yn y gorffennol pell,yn y dechrau, cyn bod daear.

24. Ganwyd fi cyn bod dyfnderau,cyn bod ffynhonnau yn llawn dŵr.

25. Cyn gosod sylfeini'r mynyddoedd,cyn bod y bryniau, y ganwyd fi,

26. cyn iddo greu tir a meysydd,ac o flaen pridd y ddaear.

27. Yr oeddwn i yno pan oedd yn gosod y nefoedd yn ei lleac yn rhoi cylch dros y dyfnder,

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 8