3. Rhwym hwy am dy fysedd,ysgrifenna hwy ar lech dy galon.
4. Dywed wrth ddoethineb, “Fy chwaer wyt ti”,a chyfarch ddeall fel câr,
5. i'th gadw dy hun rhag y wraig ddieithr,a rhag yr estrones a'i geiriau gwenieithus.
6. Yr oeddwn yn ffenestr fy nhŷ,yn edrych allan trwy'r dellt
7. ac yn gwylio'r rhai ifainc gwirion;a gwelais yn eu plith un disynnwyr
8. yn mynd heibio i gornel y stryd,ac yn troi i gyfeiriad ei thŷ
9. yn y cyfnos, yn hwyr y dydd,pan oedd yn dechrau nosi a thywyllu.
10. Daeth dynes i'w gyfarfod,wedi ei gwisgo fel putain, ac yn llawn ystryw—
11. un benchwiban a gwamal,nad yw byth yn aros gartref,
12. weithiau ar y stryd, weithiau yn y sgwâr,yn llercian ym mhob cornel—