21. Y mae'n ei ddenu â'i pherswâd,ac yn ei hudo â'i geiriau gwenieithus.
22. Y mae yntau'n ei dilyn heb oedi,fel ych yn mynd i'r lladd-dy,fel carw yn neidio i'r rhwyd
23. cyn i'r saeth ei drywanu i'r byw,fel aderyn yn hedeg yn syth i'r faglheb wybod fod ei einioes mewn perygl.
24. Yn awr, blant, gwrandewch arnaf,a rhowch sylw i'm geiriau.
25. Paid â gadael i'th galon dy ddenu i'w ffyrdd,a phaid â chrwydro i'w llwybrau;
26. oherwydd y mae wedi taro llawer yn gelain,a lladdwyd nifer mawr ganddi.
27. Ffordd i Sheol yw ei thÅ·,yn arwain i lawr i neuaddau marwolaeth.