Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 6:29-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

29. Felly y bydd yr un sy'n mynd at wraig ei gymydog;ni all unrhyw un gyffwrdd â hi heb gosb.

30. Oni ddirmygir lleidr pan fo'n dwyni foddhau ei chwant, er ei fod yn newynog?

31. Pan ddelir ef, rhaid iddo dalu'n ôl seithwaith,a rhoi'r cyfan sydd ganddo.

32. Felly, y mae'r godinebwr yn un disynnwyr,ac yn ei ddifetha'i hun wrth wneud hynny;

33. caiff niwed ac amarch,ac ni ddilëir ei warth.

34. Oherwydd y mae eiddigedd yn cynddeiriogi gŵr priod,ac nid yw'n arbed pan ddaw cyfle i ddial;

35. ni fyn dderbyn iawndal,ac nis bodlonir, er cymaint a roddi.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 6