5. Paid ag anghofio na chilio oddi wrth fy ngeiriau.Cais ddoethineb, cais ddeall;
6. paid â'i gadael, a bydd hithau'n dy gadw;câr hi, a bydd yn d'amddiffyn.
7. Doethineb yw'r pennaf peth; cais ddoethineb;â'r cyfan sydd gennyt, cais ddeall.
8. Meddwl yn uchel ohoni, ac fe'th ddyrchefir ganddi;fe'th anrhydedda, os cofleidi hi.
9. Gesyd dorch brydferth ar dy ben,a rhoi coron anrhydedd iti.”
10. Fy mab, gwrando, a dal ar fy ngeiriau,ac fe ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd.
11. Hyfforddais di yn ffordd doethineb;dysgais iti gerdded llwybrau union.
12. Pan gerddi, ni rwystrir dy gam,a phan redi, ni fyddi'n baglu.
13. Glŷn wrth addysg, a hynny'n ddiollwng;dal d'afael ynddi, oherwydd hi yw dy fywyd.
14. Paid â dilyn llwybr y drygionus,na cherdded ffordd pobl ddrwg;
15. gochel hi, paid â'i throedio,tro oddi wrthi a dos yn dy flaen.
16. Oherwydd ni allant hwy gysgu os na fyddant wedi gwneud drwg;collant gwsg os na fyddant wedi baglu rhywun.
17. Y maent yn bwyta bara a gafwyd trwy dwyll,ac yn yfed gwin gormes.
18. Y mae llwybr y cyfiawn fel golau'r wawr,sy'n cynyddu yn ei lewyrch hyd ganol dydd.
19. Ond y mae ffordd y drygionus fel tywyllwch dudew;ni wyddant beth sy'n eu baglu.
20. Fy mab, rho sylw i'm geiriau,a gwrando ar fy ymadrodd.
21. Paid â'u gollwng o'th olwg;cadw hwy yn dy feddwl;
22. oherwydd y maent yn fywyd i'r un sy'n eu cael,ac yn iechyd i'w holl gorff.
23. Yn fwy na dim, edrych ar ôl dy feddwl,oherwydd oddi yno y tardd bywyd.
24. Gofala osgoi geiriau twyllodrus,a chadw draw oddi wrth siarad dichellgar.