9. Anrhydedda'r ARGLWYDD â'th gyfoeth,ac â blaenffrwyth dy holl gynnyrch.
10. Yna bydd dy ysguboriau'n orlawn,a'th gafnau'n gorlifo gan win.
11. Fy mab, paid â diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD,a phaid â digio wrth ei gerydd;
12. oherwydd ceryddu'r un a gâr y mae'r ARGLWYDD,fel tad sy'n hoff o'i blentyn.
13. Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb,a'r un sy'n berchen deall.
14. Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian,a'i chynnyrch yn well nag aur.
15. Y mae'n fwy gwerthfawr na gemau,ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi.
16. Yn ei llaw dde y mae hir oes,a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith.
17. Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd,a heddwch sydd ar ei holl lwybrau.
18. Y mae'n bren bywyd i'r neb a gydia ynddi,a dedwydd yw'r rhai sy'n glynu wrthi.
19. Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear,ac â deall y sicrhaodd y nefoedd;
20. trwy ei ddeall y ffrydiodd y dyfnderau,ac y defnynna'r cymylau wlith.
21. Fy mab, dal d'afael ar graffter a phwyll;paid â'u gollwng o'th olwg;
22. byddant yn iechyd i'th enaid,ac yn addurn am dy wddf.