24. Pan eisteddi, ni fyddi'n ofni,a phan orweddi, bydd dy gwsg yn felys.
25. Paid ag ofni rhag unrhyw ddychryn disymwth,na dinistr y drygionus pan ddaw;
26. oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn hyder iti,ac yn cadw dy droed rhag y fagl.
27. Paid â gwrthod cymwynas i'r sawl sy'n ei haeddu,os yw yn dy allu i'w gwneud.
28. Paid â dweud wrth dy gymydog, “Tyrd yn d'ôl eto,ac fe'i rhoddaf iti yfory”,er ei fod gennyt yn awr.
29. Paid â chynllunio drwg yn erbyn dy gymydog,ac yntau'n ymddiried ynot.
30. Paid â chweryla'n ddiachos ag unrhyw un,ac yntau heb wneud cam â thi.
31. Paid â chenfigennu wrth ormeswr,na dewis yr un o'i ffyrdd.
32. Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ffieiddio'r cyfeiliornus,ond yn rhannu ei gyfrinach â'r uniawn.
33. Y mae melltith yr ARGLWYDD ar dŷ'r drygionus,ond y mae'n bendithio trigfa'r cyfiawn.
34. Er iddo ddirmygu'r dirmygwyr,eto fe rydd ffafr i'r gostyngedig.
35. Etifedda'r doeth anrhydedd,ond y ffyliaid bentwr o warth.