Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 29:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Bydd un sy'n ystyfnigo trwy ei geryddu'n fynychyn cael ei ddryllio'n sydyn heb fodd i'w adfer.

2. Pan fydd y cyfiawn yn llywodraethu, llawenha'r bobl,ond pan fydd y drygionus yn rheoli, bydd y bobl yn griddfan.

3. Y mae'r un sy'n caru doethineb yn rhoi llawenydd i'w dad,ond y mae'r un sy'n cyfeillachu â phuteiniaid yn gwastraffu ei eiddo.

4. Y mae brenin yn rhoi cadernid i wlad trwy gyfiawnder,ond y mae'r un sy'n codi trethi yn ei difa.

5. Y mae'r sawl sy'n gwenieithio wrth ei gyfaillyn taenu rhwyd i'w draed.

6. Rhwydir y drygionus gan gamwedd,ond y mae'r cyfiawn yn canu'n llawen.

7. Y mae'r cyfiawn yn gwybod hawliau'r tlodion,ond nid yw'r drygionus yn ystyried deall.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 29