Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 27:3-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Y mae pwysau mewn carreg, a thywod yn drwm,ond y mae casineb y ffŵl yn drymach na'r ddau.

4. Y mae dicter yn greulon, a digofaint fel llifeiriant,ond pwy a all sefyll o flaen cenfigen?

5. Y mae cerydd agoredyn well na chariad a guddir.

6. Y mae dyrnodiau cyfaill yn ddidwyll,ond cusanau gelyn yn dwyllodrus.

7. Y mae un wedi ei ddigoni yn gwrthod mêl,ond i'r newynog, melys yw popeth chwerw.

8. Fel aderyn yn crwydro o'i nyth,felly y mae rhywun sy'n crwydro o'i gynefin.

9. Y mae olew a phersawr yn llawenhau'r galon,a mwynder cyfaill yn cyfarwyddo'r enaid.

10. Paid â chefnu ar dy gyfaill a chyfaill dy rieni,a phaid â mynd i dŷ dy frawd yn nydd dy adfyd.Y mae cyfaill agos yn well na brawd ymhell.

11. Fy mab, bydd ddoeth, a llawenha fy nghalon;yna gallaf roi ateb i'r rhai sy'n fy amharchu.

12. Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi,ond y mae'r gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.

13. Cymer wisg y sawl sy'n mynd yn feichiau dros ddyn dieithr,a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn.

14. Y mae'r un sy'n bendithio'i gyfaill â llef uchel,ac yn codi'n fore i wneud hynny,yn cael ei ystyried yn un sy'n ei felltithio.

15. Diferion parhaus ar ddiwrnod glawog,tebyg i hynny yw gwraig yn cecru;

16. y mae ei hatal fel ceisio atal y gwynt,neu fel un yn ceisio dal olew yn ei law.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 27