Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 27:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Gad i ddieithryn dy ganmol, ac nid dy enau dy hun;un sy'n estron, ac nid dy wefusau dy hun.

3. Y mae pwysau mewn carreg, a thywod yn drwm,ond y mae casineb y ffŵl yn drymach na'r ddau.

4. Y mae dicter yn greulon, a digofaint fel llifeiriant,ond pwy a all sefyll o flaen cenfigen?

5. Y mae cerydd agoredyn well na chariad a guddir.

6. Y mae dyrnodiau cyfaill yn ddidwyll,ond cusanau gelyn yn dwyllodrus.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 27