Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 27:19-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Fel yr adlewyrchir wyneb mewn dŵr,felly y mae'r galon yn ddrych o'r unigolyn.

20. Ni ddigonir Sheol nac Abadon,ac ni ddiwellir llygaid neb ychwaith.

21. Y mae tawddlestr i'r arian, a ffwrnais i'r aur,felly y profir cymeriad gan ganmoliaeth.

22. Er iti bwyo'r ffôl â phestl mewn morteryn gymysg â'r grawn mân,eto ni elli yrru ei ffolineb allan ohono.

23. Gofala'n gyson am dy braidd,a rho sylw manwl i'r ddiadell;

24. oherwydd nid yw cyfoeth yn para am byth,na choron o genhedlaeth i genhedlaeth.

25. Ar ôl cario'r gwair, ac i'r adladd ymddangos,a chasglu gwair y mynydd,

26. yna cei ddillad o'r ŵyn,a phris y tir o'r bychod geifr,

27. a bydd digon o laeth geifr yn ymborth i ti a'th deulu,ac yn gynhaliaeth i'th forynion.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 27