Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 27:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. y mae ei hatal fel ceisio atal y gwynt,neu fel un yn ceisio dal olew yn ei law.

17. Y mae haearn yn hogi haearn,ac y mae pob un yn hogi meddwl ei gyfaill.

18. Yr un sy'n gofalu am ffigysbren sy'n bwyta'i ffrwyth,a'r sawl sy'n gwylio tros ei feistr sy'n cael anrhydedd.

19. Fel yr adlewyrchir wyneb mewn dŵr,felly y mae'r galon yn ddrych o'r unigolyn.

20. Ni ddigonir Sheol nac Abadon,ac ni ddiwellir llygaid neb ychwaith.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 27