Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 27:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Paid ag ymffrostio ynglŷn ag yfory,oherwydd ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod.

2. Gad i ddieithryn dy ganmol, ac nid dy enau dy hun;un sy'n estron, ac nid dy wefusau dy hun.

3. Y mae pwysau mewn carreg, a thywod yn drwm,ond y mae casineb y ffŵl yn drymach na'r ddau.

4. Y mae dicter yn greulon, a digofaint fel llifeiriant,ond pwy a all sefyll o flaen cenfigen?

5. Y mae cerydd agoredyn well na chariad a guddir.

6. Y mae dyrnodiau cyfaill yn ddidwyll,ond cusanau gelyn yn dwyllodrus.

7. Y mae un wedi ei ddigoni yn gwrthod mêl,ond i'r newynog, melys yw popeth chwerw.

8. Fel aderyn yn crwydro o'i nyth,felly y mae rhywun sy'n crwydro o'i gynefin.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 27