Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 26:8-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Fel gosod carreg mewn ffon dafl,felly y mae rhoi anrhydedd i ffŵl.

9. Fel draenen yn mynd i law meddwyn,felly y mae dihareb yng ngenau ffyliaid.

10. Fel saethwr yn clwyfo pawb sy'n mynd heibio,felly y mae'r un sy'n cyflogi ffŵl neu feddwyn.

11. Fel ci yn troi'n ôl at ei gyfog,felly y mae'r ffŵl sy'n ailadrodd ei ffolineb.

12. Fe welaist un sy'n ddoeth yn ei olwg ei hun;y mae mwy o obaith i ffŵl nag iddo ef.

13. Dywed y diog, “Y mae llew ar y ffordd,llew yn rhydd yn y strydoedd!”

14. Fel y mae drws yn troi ar ei golyn,felly y mae'r diog yn ei wely.

15. Y mae'r diog yn gwthio'i law i'r ddysgl,ond yn rhy ddiog i'w chodi i'w geg.

16. Y mae'r diog yn ddoethach yn ei olwg ei hunna saith o rai sy'n ateb yn synhwyrol.

17. Fel cydio yng nghlustiau ci sy'n mynd heibio,felly y mae ymyrryd yng nghweryl rhywun arall.

18. Fel rhywun gwallgof yn saethupentewynion â saethau marwol,

19. felly y mae'r un sy'n twyllo'i gymydog,ac yn dweud, “Dim ond cellwair yr oeddwn.”

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 26