Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 26:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Fel eira yn yr haf, neu law yn ystod y cynhaeaf,felly nid yw anrhydedd yn gweddu i'r ffôl.

2. Fel aderyn y to yn hedfan, neu wennol yn gwibio,felly ni chyflawnir melltith ddiachos.

3. Chwip i geffyl, ffrwyn i asyn,a gwialen i gefn ffyliaid!

4. Paid ag ateb y ffŵl yn ôl ei ffolineb,rhag i ti fynd yn debyg iddo.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 26