Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 25:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Fel dant drwg, neu droed yn llithro,felly y mae ymddiried mewn twyllwr yn amser adfyd.

20. Fel diosg gwisg ar ddiwrnod oer,neu roi finegr ar friw,felly y mae canu caneuon i galon drist.

21. Os yw dy elyn yn newynu, rho iddo fara i'w fwyta,ac os yw'n sychedig, rho iddo ddŵr i'w yfed;

22. byddi felly'n pentyrru marwor ar ei ben,ac fe dâl yr ARGLWYDD iti.

23. Y mae gwynt y gogledd yn dod â glaw,a thafod enllibus yn dod â chilwg.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 25