Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 25:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, a gofnodwyd gan wŷr Heseceia brenin Jwda:

2. Gogoniant Duw yw cadw pethau'n guddiedig,a gogoniant brenhinoedd yw eu chwilio allan.

3. Fel y mae'r nefoedd yn uchel a'r ddaear yn ddwfn,felly ni ellir chwilio calonnau brenhinoedd.

4. Symud yr amhuredd o'r arian,a daw'n llestr yn llaw'r gof.

5. Symud y drygionus o ŵydd y brenin,a sefydlir ei orsedd mewn cyfiawnder.

6. Paid ag ymddyrchafu yng ngŵydd y brenin,na sefyll yn lle'r mawrion,

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 25