Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 23:23-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Pryn wirionedd, a phaid â'i werthu;pryn ddoethineb, cyfarwyddyd a deall.

24. Bydd rhieni'r cyfiawn yn llawen iawn,a'r rhai a genhedlodd y doeth yn ymhyfrydu ynddo.

25. Bydded i'th dad a'th fam gael llawenydd,ac i'r un a esgorodd arnat gael hyfrydwch.

26. Fy mab, dal sylw arnaf,a bydded i'th lygaid ymhyfrydu yn fy ffyrdd.

27. Y mae'r butain fel pwll dwfn,a'r ddynes estron fel pydew cul;

28. y mae'n llercian fel lleidr,ac yn amlhau'r godinebwyr ymysg dynion.

29. Pwy sy'n cael gwae? Pwy sy'n cael gofid?Pwy sy'n cael ymryson a chŵyn?Pwy sy'n cael poen yn ddiachos,a chochni llygaid?

30. Y rhai sy'n oedi uwchben gwin,ac yn dod i brofi gwin wedi ei gymysgu.

31. Paid ag edrych ar win pan yw'n goch,pan yw'n pefrio yn y cwpan,ac yn mynd i lawr yn esmwyth.

32. Yn y diwedd bydd yn brathu fel sarff,ac yn pigo fel gwiber.

33. Bydd dy lygaid yn gweld pethau rhyfedd,a'th feddwl yn mynegi pethau cymysg.

34. Byddi fel un yn mynd i'w wely yng nghanol y môr,fel un yn gorwedd ar ben yr hwylbren.

35. Byddi'n dweud, “Y maent yn fy nharo, ond nid wyf yn teimlo briw;y maent yn fy nghernodio, ond ni wn hynny.Pa bryd y deffroaf, imi geisio cael diod eto?”

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 23