Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 23:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pan eisteddi i fwyta gyda llywodraethwr,rho sylw manwl i'r hyn sydd o'th flaen,

2. a gosod gyllell at dy wddfos wyt yn un blysig.

3. Paid â chwennych ei ddanteithion,oherwydd bwyd sy'n twyllo ydyw.

4. Paid â'th flino dy hun i ennill cyfoeth;bydd yn ddigon synhwyrol i ymatal.

5. Os tynni dy lygaid oddi arno, y mae'n diflannu,oherwydd y mae'n magu adenydd,fel eryr yn hedfan i'r awyr.

6. Paid â bwyta gyda neb cybyddlyd,na chwennych ei ddanteithion,

7. oherwydd bydd hynny fel blewyn yn ei lwnc;bydd yn dweud wrthyt, “Bwyta ac yf”,ond ni fydd yn meddwl hynny.

8. Byddi'n chwydu'r tameidiau a fwyteaist,ac yn gwastraffu dy ganmoliaeth.

9. Paid â llefaru yng nghlyw'r ffŵl,oherwydd bydd yn dirmygu synnwyr dy eiriau.

10. Paid â symud yr hen derfynau,na chymryd meddiant o diroedd yr amddifaid;

11. oherwydd y mae eu Gwaredwr yn gryf,a bydd yn amddiffyn eu hachos yn dy erbyn.

12. Gosod dy feddwl ar gyfarwyddyd,a'th glust ar eiriau deall.

13. Paid ag atal disgyblaeth oddi wrth blentyn;os byddi'n ei guro â gwialen, ni fydd yn marw.

14. Os byddi'n ei guro â gwialen,byddi'n achub ei fywyd o Sheol.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 23