11. Bydd pwyll yn dy amddiffyn,a deall yn dy warchod,
12. ac yn dy gadw rhag ffordd drygioni,a rhag y rhai sy'n siarad yn dwyllodrus—
13. y rhai sy'n gadael y ffordd iawni rodio yn llwybrau tywyllwch,
14. sy'n cael pleser mewn gwneud drwga mwynhad mewn twyll,
15. y rhai y mae eu ffordd yn gama'u llwybrau'n droellog.
16. Fe'th geidw oddi wrth y wraig ddieithr,a rhag y ddynes estron a'i geiriau dengar,
17. sydd wedi gadael cymar ei hieuenctid,ac wedi anghofio cyfamod ei Duw.
18. Oherwydd y mae ei thÅ· yn gwyro at angau,a'i llwybrau at y cysgodion.
19. Ni ddaw neb sy'n mynd ati yn ei ôl,ac ni chaiff ailafael ar lwybrau bywyd.
20. Felly gofala di rodio yn ffyrdd y da,a chadw at lwybrau'r cyfiawn.