Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 19:21-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Niferus yw bwriadau meddwl pobl,ond cyngor yr ARGLWYDD sy'n sefyll.

22. Peth dymunol mewn pobl yw eu teyrngarwch,a gwell yw tlotyn na rhywun celwyddog.

23. Y mae ofn yr ARGLWYDD yn arwain i fywyd,a'r sawl a'i medd yn gorffwyso heb berygl niwed.

24. Er i'r diogyn wthio'i law i'r ddysgl,eto nid yw'n ei chodi at ei enau.

25. Os curi'r gwatwarwr, bydd y gwirion yn dysgu gwers;os ceryddi'r deallus, ef ei hun sy'n ennill gwybodaeth.

26. Y mae'r sawl sy'n cam-drin ei dad ac yn diarddel ei famyn fab gwaradwyddus ac amharchus.

27. Fy mab, os gwrthodi wrando ar gerydd,byddi'n troi oddi wrth eiriau gwybodaeth.

28. Y mae tyst anonest yn gwatwar barn,a genau'r drygionus yn parablu camwedd.

29. Trefnwyd cosb ar gyfer gwatwarwyr,a chernodiau i gefn ynfydion.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 19