Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 19:11-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Y mae deall yn gwneud rhywun yn amyneddgar,a'i anrhydedd yw maddau tramgwydd.

12. Y mae llid brenin fel rhuad llew ifanc,ond ei ffafr fel gwlith ar laswellt.

13. Y mae mab ynfyd yn ddinistr i'w dad,a checru gwraig fel diferion parhaus.

14. Oddi wrth rieni yr etifeddir tŷ a chyfoeth,ond gan yr ARGLWYDD y ceir gwraig ddeallus.

15. Y mae segurdod yn dwyn trymgwsg,ac i'r diogyn daw newyn.

16. Y mae'r un sy'n cadw gorchymyn yn ei ddiogelu ei hun,ond bydd y sawl sy'n diystyru ei ffyrdd yn marw.

17. Y mae'r un sy'n trugarhau wrth y tlawd yn rhoi benthyg i'r ARGLWYDD,ac fe dâl ef yn ôl iddo am ei weithred.

18. Cerydda dy fab tra bo gobaith iddo,ond gofala beidio â'i ladd.

19. Daw cosb ar y gwyllt ei dymer;er iti ei helpu, rhaid gwneud hynny eto.

20. Gwrando ar gyngor, a derbyn ddisgyblaeth,er mwyn iti fod yn ddoeth yn y diwedd.

21. Niferus yw bwriadau meddwl pobl,ond cyngor yr ARGLWYDD sy'n sefyll.

22. Peth dymunol mewn pobl yw eu teyrngarwch,a gwell yw tlotyn na rhywun celwyddog.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 19