1. Gwell yw'r tlawd sy'n byw'n onestna'r un twyllodrus ei eiriau, ac yntau'n ynfyd.
2. Nid oes gwerth mewn brwdfrydedd heb ddeall;y mae'r chwim ei droed yn colli'r ffordd.
3. Ffolineb rhywun sy'n difetha'i ffordd,ond yn erbyn yr ARGLWYDD y mae'n dal dig.
4. Y mae cyfoeth yn amlhau cyfeillion,ond colli ei gyfaill y mae'r tlawd.
5. Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb,ac ni ddianc yr un sy'n dweud celwydd.
6. Y mae llawer yn ceisio ffafr pendefig,a phawb yn gyfaill i'r sawl sy'n rhoi.
7. Y mae holl frodyr y tlawd yn ei gasáu;gymaint mwy y pellha'i gyfeillion oddi wrtho!Y mae'n eu dilyn â geiriau, ond nid ydynt yno.
8. Y mae'r synhwyrol yn caru ei fywyd,a'r un sy'n diogelu gwybodaeth yn cael daioni.
9. Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb,a difethir yr un sy'n dweud celwydd.