Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 18:10-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Y mae enw'r ARGLWYDD yn dŵr cadarn;rhed y cyfiawn ato ac y mae'n ddiogel.

11. Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn,ac y mae fel mur cryf yn ei dyb ei hun.

12. Cyn dyfod dinistr, y mae'r galon yn falch,ond daw gostyngeiddrwydd o flaen anrhydedd.

13. Y mae'r un sy'n ateb cyn gwrandoyn dangos ffolineb ac amarch.

14. Gall ysbryd rhywun ei gynnal yn ei afiechyd,ond os yw'r ysbryd yn isel, pwy a'i cwyd?

15. Y mae meddwl deallus yn ennill gwybodaeth,a chlust y doeth yn chwilio am ddeall.

16. Y mae rhodd rhywun yn agor drysau iddo,ac yn ei arwain at y mawrion.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 18