7. Pan yw'r ARGLWYDD yn hoffi ffyrdd rhywun,gwna hyd yn oed i'w elynion fyw mewn heddwch ag ef.
8. Gwell ychydig gyda chyfiawndernag enillion mawr heb farn.
9. Y mae meddwl rhywun yn cynllunio'i ffordd,ond yr ARGLWYDD sy'n trefnu ei gamre.
10. Ceir dyfarniad oddi ar wefusau'r brenin;nid yw ei enau yn bradychu cyfiawnder.
11. Mater i'r ARGLWYDD yw mantol a chloriannau cyfiawn;a'i waith ef yw'r holl bwysau yn y god.
12. Ffiaidd gan frenhinoedd yw gwneud drwg,oherwydd trwy gyfiawnder y sicrheir gorsedd.
13. Hyfrydwch brenin yw genau cyfiawn,a hoffa'r sawl sy'n llefaru'n uniawn.
14. Y mae llid brenin yn gennad angau,ond fe'i dofir gan yr un doeth.
15. Yn llewyrch wyneb brenin y ceir bywyd,ac y mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn.
16. Gwell nag aur yw ennill doethineb,a gwell dewis deall nag arian.