Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 14:8-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Y mae doethineb y call yn peri iddo ddeall ei ffordd,ond ffolineb y ffyliaid yn camarwain.

9. Y mae ffyliaid yn gwawdio euogrwydd,ond yr uniawn yn deall beth sy'n dderbyniol.

10. Gŵyr y galon am ei chwerwder ei hun,ac ni all dieithryn gyfranogi o'i llawenydd.

11. Dinistrir tŷ'r drygionus,ond ffynna pabell yr uniawn.

12. Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union,ond sy'n arwain i farwolaeth yn ei diwedd.

13. Hyd yn oed wrth chwerthin gall fod y galon yn ofidus,a llawenydd yn troi'n dristwch yn y diwedd.

14. Digonir y gwrthnysig gan ei ffyrdd ei hun,a'r daionus gan ei weithredoedd yntau.

15. Y mae'r gwirion yn credu pob gair,ond y mae'r call yn ystyried pob cam.

16. Y mae'r doeth yn ofalus ac yn cilio oddi wrth ddrwg,ond y mae'r ffôl yn ddiofal a gorhyderus.

17. Y mae'r diamynedd yn gweithredu'n ffôl,a chaseir yr un dichellgar.

18. Ffolineb yw rhan y rhai gwirion,ond gwybodaeth yw coron y rhai call.

19. Ymgryma'r rhai drwg o flaen pobl dda,a'r drygionus wrth byrth y cyfiawn.

20. Caseir y tlawd hyd yn oed gan ei gydnabod,ond y mae digon o gyfeillion gan y cyfoethog.

21. Y mae'r un a ddirmyga'i gymydog yn pechu,ond dedwydd yw'r un sy'n garedig wrth yr anghenus.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 14