Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 14:21-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Y mae'r un a ddirmyga'i gymydog yn pechu,ond dedwydd yw'r un sy'n garedig wrth yr anghenus.

22. Onid yw'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn cyfeiliorni,ond y rhai sy'n cynllunio da yn deyrngar a ffyddlon?

23. Ym mhob llafur y mae elw,ond y mae gwag-siarad yn arwain i angen.

24. Eu craffter yw coron y doeth,ond ffolineb yw addurn y ffyliaid.

25. Y mae tyst geirwir yn achub bywydau,ond y mae'r twyllwr yn pentyrru celwyddau.

26. Yn ofn yr ARGLWYDD y mae sicrwydd y cadarn,a bydd yn noddfa i'w blant.

27. Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ffynnon fywioli arbed rhag maglau marwolaeth.

28. Yn amlder pobl y mae anrhydedd brenin;ond heb bobl, dinistrir llywodraethwr.

29. Y mae digon o ddeall gan yr amyneddgar,ond dyrchafu ffolineb a wna'r byr ei dymer.

30. Meddwl iach yw iechyd y corff,ond cancr i'r esgyrn yw cenfigen.

31. Y mae'r un sy'n gorthrymu'r tlawd yn amharchu ei Greawdwr,ond y sawl sy'n trugarhau wrth yr anghenus yn ei anrhydeddu.

32. Dymchwelir y drygionus gan ei ddrygioni ei hun,ond caiff y cyfiawn loches hyd yn oed wrth farw.

33. Trig doethineb ym meddwl y deallus,ond dirmygir hi ymysg ffyliaid.

34. Y mae cyfiawnder yn dyrchafu cenedl,ond pechod yn warth ar bobloedd.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 14