Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 14:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Digonir y gwrthnysig gan ei ffyrdd ei hun,a'r daionus gan ei weithredoedd yntau.

15. Y mae'r gwirion yn credu pob gair,ond y mae'r call yn ystyried pob cam.

16. Y mae'r doeth yn ofalus ac yn cilio oddi wrth ddrwg,ond y mae'r ffôl yn ddiofal a gorhyderus.

17. Y mae'r diamynedd yn gweithredu'n ffôl,a chaseir yr un dichellgar.

18. Ffolineb yw rhan y rhai gwirion,ond gwybodaeth yw coron y rhai call.

19. Ymgryma'r rhai drwg o flaen pobl dda,a'r drygionus wrth byrth y cyfiawn.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 14