13. Hyd yn oed wrth chwerthin gall fod y galon yn ofidus,a llawenydd yn troi'n dristwch yn y diwedd.
14. Digonir y gwrthnysig gan ei ffyrdd ei hun,a'r daionus gan ei weithredoedd yntau.
15. Y mae'r gwirion yn credu pob gair,ond y mae'r call yn ystyried pob cam.
16. Y mae'r doeth yn ofalus ac yn cilio oddi wrth ddrwg,ond y mae'r ffôl yn ddiofal a gorhyderus.
17. Y mae'r diamynedd yn gweithredu'n ffôl,a chaseir yr un dichellgar.
18. Ffolineb yw rhan y rhai gwirion,ond gwybodaeth yw coron y rhai call.
19. Ymgryma'r rhai drwg o flaen pobl dda,a'r drygionus wrth byrth y cyfiawn.
20. Caseir y tlawd hyd yn oed gan ei gydnabod,ond y mae digon o gyfeillion gan y cyfoethog.
21. Y mae'r un a ddirmyga'i gymydog yn pechu,ond dedwydd yw'r un sy'n garedig wrth yr anghenus.
22. Onid yw'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn cyfeiliorni,ond y rhai sy'n cynllunio da yn deyrngar a ffyddlon?
23. Ym mhob llafur y mae elw,ond y mae gwag-siarad yn arwain i angen.
24. Eu craffter yw coron y doeth,ond ffolineb yw addurn y ffyliaid.