Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 14:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Y mae gwraig ddoeth yn adeiladu ei thŷ,ond y ffôl yn ei dynnu i lawr â'i dwylo'i hun.

2. Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ofni'r ARGLWYDD,ond y cyfeiliornus ei ffyrdd yn ei ddirmygu.

3. Yng ngeiriau'r ffôl y mae gwialen i'w gefn,ond y mae ymadroddion y doeth yn ei amddiffyn.

4. Heb ychen y mae'r preseb yn wag,ond trwy nerth ych ceir cynnyrch llawn.

5. Nid yw tyst gonest yn dweud celwydd,ond y mae gau dyst yn pentyrru anwireddau.

6. Chwilia'r gwatwarwr am ddoethineb heb ei chael,ond daw gwybodaeth yn rhwydd i'r deallus.

7. Cilia oddi wrth yr un ffôl,oherwydd ni chei eiriau deallus ganddo.

8. Y mae doethineb y call yn peri iddo ddeall ei ffordd,ond ffolineb y ffyliaid yn camarwain.

9. Y mae ffyliaid yn gwawdio euogrwydd,ond yr uniawn yn deall beth sy'n dderbyniol.

10. Gŵyr y galon am ei chwerwder ei hun,ac ni all dieithryn gyfranogi o'i llawenydd.

11. Dinistrir tŷ'r drygionus,ond ffynna pabell yr uniawn.

12. Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union,ond sy'n arwain i farwolaeth yn ei diwedd.

13. Hyd yn oed wrth chwerthin gall fod y galon yn ofidus,a llawenydd yn troi'n dristwch yn y diwedd.

14. Digonir y gwrthnysig gan ei ffyrdd ei hun,a'r daionus gan ei weithredoedd yntau.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 14