Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 13:8-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Y pridwerth am fywyd pob un yw ei gyfoeth,ond ni chlyw'r tlawd fygythion.

9. Disgleiria goleuni'r cyfiawn,ond diffydd lamp y drygionus.

10. Y mae'r disynnwyr yn codi cynnen trwy ymffrostio,ond y mae doethineb gan y rhai sy'n derbyn cyngor.

11. Derfydd cyfoeth a gafwyd yn ddiymdrech,ond o'i gasglu bob yn dipyn fe gynydda.

12. Y mae'r gobaith a oedir yn clafychu'r galon,ond y dymuniad a gyflawnir yn bren bywiol.

13. Ei niweidio'i hun y mae'r un sy'n dirmygu cyngor,ond gwobrwyir yr un sy'n parchu gorchymyn.

14. Y mae cyfarwyddyd y doeth yn ffynnon fywioli arbed rhag maglau marwolaeth.

15. Y mae deall da yn ennill ffafr,ond garw yw ffordd y twyllwyr.

16. Y mae pawb call yn gweithredu'n ddeallus,ond y mae'r ffôl yn amlygu ffolineb.

17. Y mae negesydd drwg yn achosi dinistr,ond cennad cywir yn dwyn lles.

18. Tlodi a gwarth sydd i'r un sy'n anwybyddu disgyblaeth,ond anrhydeddir y sawl sy'n derbyn cerydd.

19. Y mae dymuniad a gyflawnir yn felys ei flas,ond cas gan ffyliaid droi oddi wrth ddrwg.

20. Trwy rodio gyda'r doeth ceir doethineb,ond daw niwed o aros yng nghwmni ffyliaid.

21. Y mae dinistr yn dilyn pechaduriaid,ond daioni yw gwobr y cyfiawn.

22. Gedy'r daionus etifeddiaeth i'w blant,ond rhoddir cyfoeth pechadur i'r cyfiawn.

23. Ceir digon o fwyd ym mraenar y tlodion,ond heb gyfiawnder fe ddiflanna.

24. Casáu ei fab a wna'r un sy'n arbed y wialen,ond ei garu y mae'r sawl a rydd gerydd cyson.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 13