Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 13:7-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Rhydd ambell un yr argraff ei fod yn gyfoethog, a heb ddim ganddo;ymddengys arall yn dlawd, ac yntau'n gyfoethog iawn.

8. Y pridwerth am fywyd pob un yw ei gyfoeth,ond ni chlyw'r tlawd fygythion.

9. Disgleiria goleuni'r cyfiawn,ond diffydd lamp y drygionus.

10. Y mae'r disynnwyr yn codi cynnen trwy ymffrostio,ond y mae doethineb gan y rhai sy'n derbyn cyngor.

11. Derfydd cyfoeth a gafwyd yn ddiymdrech,ond o'i gasglu bob yn dipyn fe gynydda.

12. Y mae'r gobaith a oedir yn clafychu'r galon,ond y dymuniad a gyflawnir yn bren bywiol.

13. Ei niweidio'i hun y mae'r un sy'n dirmygu cyngor,ond gwobrwyir yr un sy'n parchu gorchymyn.

14. Y mae cyfarwyddyd y doeth yn ffynnon fywioli arbed rhag maglau marwolaeth.

15. Y mae deall da yn ennill ffafr,ond garw yw ffordd y twyllwyr.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 13