4. Y mae'r diogyn yn awchu, ac eto heb gael dim,ond y mae'r diwyd yn ffynnu.
5. Y mae'r cyfiawn yn casáu twyll,ond y mae'r drygionus yn gweithredu'n ffiaidd a gwarthus.
6. Y mae cyfiawnder yn amddiffyn ffordd y cywir,ond drygioni yn dymchwel y pechadur.
7. Rhydd ambell un yr argraff ei fod yn gyfoethog, a heb ddim ganddo;ymddengys arall yn dlawd, ac yntau'n gyfoethog iawn.
8. Y pridwerth am fywyd pob un yw ei gyfoeth,ond ni chlyw'r tlawd fygythion.
9. Disgleiria goleuni'r cyfiawn,ond diffydd lamp y drygionus.
10. Y mae'r disynnwyr yn codi cynnen trwy ymffrostio,ond y mae doethineb gan y rhai sy'n derbyn cyngor.
11. Derfydd cyfoeth a gafwyd yn ddiymdrech,ond o'i gasglu bob yn dipyn fe gynydda.
12. Y mae'r gobaith a oedir yn clafychu'r galon,ond y dymuniad a gyflawnir yn bren bywiol.
13. Ei niweidio'i hun y mae'r un sy'n dirmygu cyngor,ond gwobrwyir yr un sy'n parchu gorchymyn.
14. Y mae cyfarwyddyd y doeth yn ffynnon fywioli arbed rhag maglau marwolaeth.