Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 13:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Y mae'r gobaith a oedir yn clafychu'r galon,ond y dymuniad a gyflawnir yn bren bywiol.

13. Ei niweidio'i hun y mae'r un sy'n dirmygu cyngor,ond gwobrwyir yr un sy'n parchu gorchymyn.

14. Y mae cyfarwyddyd y doeth yn ffynnon fywioli arbed rhag maglau marwolaeth.

15. Y mae deall da yn ennill ffafr,ond garw yw ffordd y twyllwyr.

16. Y mae pawb call yn gweithredu'n ddeallus,ond y mae'r ffôl yn amlygu ffolineb.

17. Y mae negesydd drwg yn achosi dinistr,ond cennad cywir yn dwyn lles.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 13