Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 13:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Y mae mab doeth yn derbyn disgyblaeth tad,ond ni wrendy gwatwarwr ar gerydd.

2. Trwy ffrwyth ei enau y digonir pob un â daioni,ond awchu am drais y mae twyllwyr.

3. Y mae'r un sy'n gwylio'i eiriau yn diogelu ei fywyd,ond ei ddinistrio'i hun y mae'r un sy'n siarad gormod.

4. Y mae'r diogyn yn awchu, ac eto heb gael dim,ond y mae'r diwyd yn ffynnu.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 13