Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 13:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Y mae mab doeth yn derbyn disgyblaeth tad,ond ni wrendy gwatwarwr ar gerydd.

2. Trwy ffrwyth ei enau y digonir pob un â daioni,ond awchu am drais y mae twyllwyr.

3. Y mae'r un sy'n gwylio'i eiriau yn diogelu ei fywyd,ond ei ddinistrio'i hun y mae'r un sy'n siarad gormod.

4. Y mae'r diogyn yn awchu, ac eto heb gael dim,ond y mae'r diwyd yn ffynnu.

5. Y mae'r cyfiawn yn casáu twyll,ond y mae'r drygionus yn gweithredu'n ffiaidd a gwarthus.

6. Y mae cyfiawnder yn amddiffyn ffordd y cywir,ond drygioni yn dymchwel y pechadur.

7. Rhydd ambell un yr argraff ei fod yn gyfoethog, a heb ddim ganddo;ymddengys arall yn dlawd, ac yntau'n gyfoethog iawn.

8. Y pridwerth am fywyd pob un yw ei gyfoeth,ond ni chlyw'r tlawd fygythion.

9. Disgleiria goleuni'r cyfiawn,ond diffydd lamp y drygionus.

10. Y mae'r disynnwyr yn codi cynnen trwy ymffrostio,ond y mae doethineb gan y rhai sy'n derbyn cyngor.

11. Derfydd cyfoeth a gafwyd yn ddiymdrech,ond o'i gasglu bob yn dipyn fe gynydda.

12. Y mae'r gobaith a oedir yn clafychu'r galon,ond y dymuniad a gyflawnir yn bren bywiol.

13. Ei niweidio'i hun y mae'r un sy'n dirmygu cyngor,ond gwobrwyir yr un sy'n parchu gorchymyn.

14. Y mae cyfarwyddyd y doeth yn ffynnon fywioli arbed rhag maglau marwolaeth.

15. Y mae deall da yn ennill ffafr,ond garw yw ffordd y twyllwyr.

16. Y mae pawb call yn gweithredu'n ddeallus,ond y mae'r ffôl yn amlygu ffolineb.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 13