27. pan ddaw dychryn arnoch fel corwynt,a dinistr yn taro fel storm,pan ddaw adfyd a gwasgfa arnoch.
28. Yna galwant arnaf, ond nid atebaf;fe'm ceisiant yn ddyfal, ond heb fy nghael.
29. Oherwydd iddynt gasáu gwybodaeth,a throi oddi wrth ofn yr ARGLWYDD,
30. a gwrthod fy nghyngor,ac anwybyddu fy holl gerydd,
31. cânt fwyta o ffrwyth eu ffyrdd,a syrffedu ar eu cynlluniau.