2. i gael doethineb ac addysg,i ddeall geiriau deallus,
3. i dderbyn addysg fuddiol,cyfiawnder, barn, ac uniondeb,
4. i roi craffter i'r gwirion,a gwybodaeth a synnwyr i'r ifanc.
5. Y mae'r doeth yn gwrando ac yn cynyddu mewn dysg,a'r deallus yn ennill medrusrwydd,
6. i ddeall dameg a'i dehongliad,dywediadau'r doeth a'u posau.
7. Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau gwybodaeth,ond y mae ffyliaid yn diystyru doethineb a disgyblaeth.
8. Fy mab, gwrando ar addysg dy dad,paid â gwrthod cyfarwyddyd dy fam;
9. bydd yn dorch brydferth ar dy ben,ac yn gadwyn am dy wddf.
10. Fy mab, os hudir di gan bechaduriaid,paid â chytuno â hwy.
11. Fe ddywedant, “Tyrd gyda ni,inni gynllwynio i dywallt gwaed,a llechu'n ddiachos yn erbyn y diniwed;
12. fel Sheol, llyncwn hwy'n fywac yn gyfan, fel rhai'n disgyn i'r pwll;