15. Fy mab, paid â mynd yr un ffordd â hwy;cadw dy droed oddi ar eu llwybr.
16. Oherwydd y mae eu traed yn rhuthro at ddrwg,ac yn prysuro i dywallt gwaed.
17. Yn sicr, ofer yw gosod rhwydyng ngolwg unrhyw aderyn hedegog.
18. Am eu gwaed eu hunain y maent yn cynllwynio,ac yn llechu yn eu herbyn eu hunain.
19. Dyma dynged pob un awchus am elw;y mae'n cymryd einioes y sawl a'i piau.
20. Y mae doethineb yn galw'n uchel yn y stryd,yn codi ei llais yn y sgwâr,
21. yn gweiddi ar ben y muriau,yn traethu ei geiriau ym mynedfa pyrth y ddinas.
22. Chwi'r rhai gwirion, pa hyd y bodlonwch ar fod yn wirion,ac yr ymhyfryda'r gwatwarwyr mewn gwatwar,ac y casâ ffyliaid wybodaeth?
23. Os newidiwch eich ffyrdd dan fy ngherydd,tywalltaf fy ysbryd arnoch,a gwneud i chwi ddeall fy ngeiriau.
24. Ond am i mi alw, a chwithau heb ymateb,ac imi estyn fy llaw, heb neb yn gwrando;
25. am i chwi ddiystyru fy holl gyngor,a gwrthod fy ngherydd—
26. am hynny, chwarddaf ar eich dinistr,a gwawdio pan ddaw dychryn arnoch,