1. Diarhebion Solomon fab Dafydd, brenin Israel—
2. i gael doethineb ac addysg,i ddeall geiriau deallus,
3. i dderbyn addysg fuddiol,cyfiawnder, barn, ac uniondeb,
4. i roi craffter i'r gwirion,a gwybodaeth a synnwyr i'r ifanc.
5. Y mae'r doeth yn gwrando ac yn cynyddu mewn dysg,a'r deallus yn ennill medrusrwydd,
6. i ddeall dameg a'i dehongliad,dywediadau'r doeth a'u posau.