19. Yr oeddwn yn ofni'r dig a'r cynddaredd yr oedd yr ARGLWYDD yn eu dangos tuag atoch gan feddwl eich difa, ond gwrandawodd yr ARGLWYDD arnaf y tro hwn eto.
20. Yr oedd yr ARGLWYDD yn ddig iawn wrth Aaron ac yn bwriadu ei ddifa, ond ymbiliais ar ei ran yr adeg honno.
21. Cymerais y llo yr oeddech wedi pechu wrth ei wneud, a'i losgi yn y tân, ei guro a'i falu'n fân nes ei fod yn llwch, ac yna teflais y llwch i'r nant oedd yn llifo o'r mynydd.
22. Digiasoch yr ARGLWYDD yn Tabera, yn Massa ac yn Cibroth-hattaafa.
23. Yna pan anfonodd yr ARGLWYDD chwi o Cades-barnea a dweud wrthych, “Ewch i fyny i feddiannu'r wlad yr wyf yn ei rhoi ichwi”, gwrthryfela a wnaethoch yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw, a gwrthod ymddiried ynddo a gwrando ar ei lais.
24. Yr ydych wedi gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD o'r dydd y deuthum i'ch adnabod.
25. Yna syrthiais i lawr gerbron yr ARGLWYDD am ddeugain diwrnod a deugain nos, oherwydd iddo ddweud ei fod am eich difa.
26. Gweddïais ar yr ARGLWYDD a dweud, “O Arglwydd DDUW, paid â dinistrio dy bobl, dy etifeddiaeth a achubaist â'th gryfder trwy ddod â hwy allan o'r Aifft â llaw gadarn.
27. Cofia dy weision, Abraham, Isaac a Jacob; paid ag edrych ar ystyfnigrwydd, drygioni a phechod y bobl hyn,